Loading Events
Pop down to your local People Planet Pint meetup to find more about what’s going on locally with sustainability and how you can get involved

Pop down to your local People Planet Pint meetup to find more about what’s going on locally with sustainability and how you can get involved.

No pitches, powerpoints or panels. Just People, Planet, Pint/s.

Your local meetup is a great place to start your journey or continue learning, and meet diverse people to chat about life and how we can sustain it. Every job is a climate job, so come along and learn about how you can take action, as well as what is going on locally.

We welcome everyone, regardless of their experience or background. People Planet Pint is a space where everyone can feel comfortable learning about sustainability and sharing their ideas.

Afterall, creating a sustainable future requires connected communities. And what better way to bring everyone together than over a drink?

Prefer a Pastry to a Pint? Head along to ‘People Planet Pastry’! Equally relaxed and welcoming, they run during the day and offer an informal way to learn about what is going on locally in sustainability.

//

Galwch draw i’ch cyfarfod Pobl Planed Peint lleol i ddarganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn lleol o ran cynaliadwyedd a sut y gallwch chi gymryd rhan.

Dim agenda, pwerbwyntiau na phaneli. Dim ond Pobl, Planed, Peint/iau.

Mae eich cyfarfod lleol yn lle gwych i gychwyn eich taith neu barhau i ddysgu, a chwrdd â phobl amrywiol i sgwrsio am fywyd a sut y gallwn ei gynnal. Mae pob un swydd yn swydd hinsawdd, felly dewch draw i ddysgu sut y gallwch chi weithredu ac ynglŷn â beth sy’n digwydd yn lleol.

Rydym yn croesawu pawb, waeth beth fo’u profiad neu gefndir. Mae Pobl Planed Peint yn ofod lle gall pawb deimlo’n gyfforddus yn dysgu am gynaliadwyedd a rhannu eu syniadau.

Wedi’r cyfan, mae angen cymunedau cysylltiedig i greu dyfodol cynaliadwy. A pha ffordd well o ddod â phawb at ei gilydd na thros ddiod?

Hoffi Crwst neu Bastai yn lle Pheint? Ewch draw i ‘Pobl Planed Crwst’! Yr un mor hamddenol a chroesawgar, maent yn rhedeg yn ystod y dydd ac yn cynnig ffordd anffurfiol o ddysgu am yr hyn sy’n digwydd yn lleol yn y maes cynaliadwyedd.

Your Volunteer Hosts | Eich Gwesteiwyr Gwirfoddol

With a doctorate on community energy in Wales and Scotland, co-ordinator Sioned Haf has organised a number of events to raise awareness of the potential of community owned renewable energy projects and created a graphic novel for schools to explore the sector in more depth. Contact sioned@ynnisirgar.org 07529 901523

Gyda doethuriaeth ar ynni cymunedol yng Nghymru a’r Alban, mae’r cydlynydd Sioned Haf wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o botensial prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned ac wedi creu nofel graffeg i ysgolion archwilio’r sector yn fanylach. Cyswllt sioned@ynnisirgar.org 07529 901523

Vanessa Bolton-Roe is the Project Officer for Bwrlwm, an exciting new project with Ynni Sir Gar for Llandovery and surrounding area. The aim of Bwrlwm is to help create a greener, brighter future for the town, working with the community to help identify solutions to existing issues and build on new ideas. Contact vanessa@ynnisirgar.org 07393593699

Vanessa Bolton-Roe yw Swyddog Prosiect Bwrlwm, prosiect newydd cyffrous gydag Ynni Sir Gâr ar gyfer Llanymddyfri a’r cyffiniau. Nod Bwrlwm yw helpu i greu dyfodol gwyrddach, mwy disglair i’r dref, gan weithio gyda’r gymuned i helpu canfod atebion i faterion presennol ac adeiladu ar syniadau newydd. Cyswllt vanessa@ynnisirgar.org 07393593699

Ynni Sir Gâr is a social enterprise based in Carmarthenshire, working within our community to tackle climate change by reducing energy costs, promoting energy efficiency, tackling fuel poverty, generating clean renewable energy and keeping the profits local. We work with communities, third sector bodies, organisations, and schools across west Wales to deliver and maintain energy projects and sustainability measures.

Mae Ynni Sir Gâr yn fenter gymdeithasol sydd wedi’i lleoli yn Sir Gaerfyrddin, sy’n gweithio o fewn ein cymuned i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy leihau costau ynni, hybu effeithlonrwydd ynni, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, cynhyrchu ynni adnewyddadwy glân a chadw’r elw yn lleol. Rydym yn gweithio gyda chymunedau, cyrff trydydd sector, sefydliadau, ac ysgolion ledled gorllewin Cymru i gyflawni a chynnal prosiectau ynni a mesurau cynaliadwyedd.

Our Sponsor | Ein Noddwr

KRYSTAL are an award-winning, 100% green web hosting provider, with datacentres in the UK, US, & Europe. They are climate positive, and their approach centres on value, quality and transparency.

We are delighted to announce our partnership with Krystal (the UK’s only B Corp web hosting/cloud provider), and welcome them on board as sponsors of the People, Planet, Pint events.

This means the first 33 drinks are on Krystal at every event, and has allowed us to invest and upscale the series to accelerate action on climate change.

Simon Blackler is the founder and CEO of KRYSTAL, and Co-Founder of MillionTreePledge.

//

Mae KRYSTAL yn ddarparwr gwobrwyedig gwe-letya gwyrdd 100%, gyda chanolfannau data yn y DU, UDA ac Ewrop. Maent yn gadarnhaol o ran yr hinsawdd, ac mae eu hymagwedd yn canolbwyntio ar werth, ansawdd a thryloywder.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein partneriaeth â Krystal (yr unig ddarparwr gwe-letya/cwmwl B Corp yn y DU), a’u croesawu fel noddwyr digwyddiadau People, Planet, Pint.

Mae hyn yn golygu bod y 33 diod gyntaf ar Krystal ym mhob digwyddiad, ac mae wedi caniatáu i ni fuddsoddi ac uwchraddio’r gyfres i gyflymu gweithredu ar newid yn yr hinsawdd.

Simon Blackler yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol KRYSTAL, a Chyd-sylfaenydd MillionTreePledge.

About Us | Amdanom ni

Small99 provides carbon reduction plans for micro and small businesses. With a simple measurement tool and practical actions broken down into 10 minute to-do lists, Small99 empowers the 99% of businesses to start on their sustainability journey, and win more customers while doing so.

//

Mae Small99 yn darparu cynlluniau lleihau carbon ar gyfer busnesau micro a bach. Gydag offeryn mesur syml a chamau ymarferol wedi’u rhannu’n rhestrau i’w gwneud mewn 10 munud, mae Small99 yn grymuso’r 99% o fusnesau i ddechrau ar eu taith gynaliadwyedd, ac ennill mwy o gwsmeriaid wrth wneud hynny.

Translated by Sioned Haf (Ynni Sir Gar).

Share this post

Search

Enter your town/city or event subject…

Join our newsletter